SL(6)277 - Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022

Cefndir a Diben

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022 (“y Rheoliadau”) drwy arfer y pwerau a roddir gan Erthyglau 9(1) a 18A(3) o Reoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion sydd i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid (“Rheoliad 1831/2003”).

Ni chaniateir rhoi ychwanegion bwyd anifeiliaid ar y farchnad, eu prosesu na'u defnyddio oni bai eu bod yn cael eu cwmpasu gan awdurdodiad a roddwyd yn unol â Rheoliad 1831/2003. Mae awdurdodiadau yn ddilys am ddeng mlynedd.

Mae’r Rheoliadau yn darparu ar gyfer awdurdodi 11 o ychwanegion bwyd anifeiliaid:

·         Mae atodlenni 1 i 3, 7 a 9 yn cynnwys awdurdodiadau newydd.

·         Mae atodlenni 4 i 6 ac 8 yn cynnwys adnewyddu awdurdodiadau blaenorol.

·         Mae atodlenni 10 ac 11 yn awdurdodi fformiwleiddiad newydd o ddecocwinad a ffurf addasedig ohono. 

Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio pedwar o Reoliadau’r UE a ddargedwir sy’n awdurdodi’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid Bacillus subtilis ATCC PTA-6737 i ddiweddaru enw’r straen bacterol i “Bacillus velezensis”. Mae darpariaeth drosiannol yn caniatáu parhau i ddefnyddio cynhyrchion a labelwyd gan ddefnyddio’r enw blaenorol ond a gynhyrchwyd fel arall yn unol â’r awdurdodiadau perthnasol.

Mae’r Rheoliadau yn dirymu Rheoliadau’r UE a ddargedwir sy’n cynnwys awdurdodiadau ymlaen llaw ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid sydd bellach wedi eu hawdurdodi gan yr Atodlenni. Mae darpariaethau trosiannol yn caniatáu parhau i gynhyrchu a labelu cynhyrchion, am gyfnodau cyfyngedig o amser, o dan amodau awdurdodiadau ymlaen llaw.

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Caiff y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae'r Atodlenni i'r Rheoliadau yn cynnwys awdurdodiadau newydd ac adnewyddu awdurdodiadau presennol, gydag addasiadau neu heb addasiadau. Mae Rheoliad 6 yn addasu awdurdodiad presennol, tra bod rheoliadau 4 i 7 yn diwygio awdurdodiadau presennol. Mae Rheoliad 8 ac Atodlen 12 yn dirymu awdurdodiadau presennol.

Mae Erthygl 13 o Reoliad 1831/2003 yn darparu ar gyfer addasu, atal neu ddirymu awdurdodiad. Mae Erthygl 13(6) yn darparu bod yn rhaid i delerau unrhyw addasu, atal neu ddirymu fod ar ffurf a ragnodir gan yr awdurdod priodol (ac yn unol ag Erthygl 2, ystyr “prescribed” yw “prescribed by regulations”).

Mae'r Rheoliadau cyfatebol ar gyfer yr Alban y cyfeirir atynt yn y Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio at Erthygl 13(6) yn y rhaglith, ond nid yw'r Rheoliadau cyfatebol yn Lloegr yn cyfeirio at hynny.

Gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro a yw Gweinidogion Cymru yn arfer y pŵer yn Erthygl 13(6) o Reoliad 1831/2003 wrth wneud y Rheoliadau. 

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae nifer o anghysondebau o ran sut mae termau technegol yn cael eu trin o fewn yr Atodlenni i'r Rheoliadau. Er enghraifft:

·         Yn Atodlen 7, ym mhennawd y tabl, mae'r geiriau mewn dyfynodau ar gyfer y categori ychwanegion ychwanegion sootechnegol” yn wahanol i'r geiriau a ddefnyddir ar gyfer y categori ychwanegion yn y tabl (ychwanegyn bwyd anifeiliaid sootechnegol”).

·         Yn Atodlen 1, yn y fersiwn Saesneg, yn yr ail golofn ar gyfer y cofnod “Characterisation of the active substance(s)”, dylai’r geiriau “Manganese-2-aminopentanedioic acid, sodium and” fod ar linell newydd, yn hytrach nag yn syth ar ôl y gromfach gaeedig ar gyfer y fformiwla flaenorol.

·         Yn y fersiwn Saesneg, yn y tablau yn Atodlenni 2, 6, 7 ac 8, yn y cofnodion ar gyfer "Dulliau dadansoddi", mae’r priflythrennau a’r cysylltnodau ar gyfer y term “Pulsed field gel electrophoresis” yn amrywio. Yn y testun Cymraeg o'r Atodlenni hynny, mae priflythrennau’r term hefyd yn anghyson.

·         Yn yr Atodlenni, lle talfyrir term technegol, mae'r testun Cymraeg yn gyffredinol yn defnyddio'r talfyriad Saesneg. Fodd bynnag, yn Atodlen 5, defnyddir llythrennau cyntaf y geiriau Cymraeg cyfatebol er mwyn creu byrfodd Cymraeg gwahanol. Mae’r ddwy ffordd yn ddilys, ond gallai’r anghysondeb achosi dryswch i’r darllenydd.

Mae’r Atodlenni yn darparu’r awdurdodiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegion bwyd anifeiliaid penodedig. Atgoffir Llywodraeth Cymru y dylid cymryd gofal i drin termau technegol perthnasol mewn ffordd gyson, i sicrhau bod awdurdodiadau yn glir, ac i osgoi unrhyw ddryswch.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru ar y pwynt craffu technegol yn unig.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

16 Tachwedd 2022